http://www.racocatala.com/catalunyacymru/amryw/1_vortaroy/geiriadur_catalaneg_cymraeg_LLOP_p_1086k.htm


 0001z Tudalen Blaen / Pàgina principal

..........1863k Y Porth Cymraeg / La porta en gal·lès

....................0009k Y Gwegynllun / Mapa de la web

..............................1798k Geiriaduron / Diccionaris

........................................1794k Geiriaduron ar gyfer siaradwyr Cymraeg / Diccionaris per als gal·lesoparlants

..................................................0379k Mynegai i’r Geiriadur Catalaneg / Índex del diccionari català

............................................................y tudalen hwn / aquesta pàgina



..

 

 

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

Geiriadur Cataloneg-Cymráeg
(ar gyfer siaradwyr Cymráeg)

Diccionari català-gal
·lès
(per gal
·lesoparlants)

 

Llythrennau: P-PAVÓ

 

 

Adolygiad diweddaraf
Darrera actualització

2005-02-06 :: 2005-03-22 ::  2005-05-03
 

 

 

P, p
1
la lletra p [pe] y llythyren p

pa
1
bara
el pa nostre ein bara beunyddiol

2
torth o fara

3
dir pa al pa i vi al vi (“galw bara yn fara a gwin yn win”)
galw rhaw yn rhaw, galw pâl yn bâl, galw rhywbeth wrth ei enw; siarad yn blwmp ac yn blaen
A la nostra terra ens agrada dir pa al pa i vi al vi
Yng Nghatalonia (“yn ein gwlad ninnau”) yr ydym yn hoffi galw rhaw yn rhaw

4 Aquella dona és mes lletja que un dia sense pa Mae hi’n hyll fel pechod (“mae’n hyllach na diwrnod heb fara”)

5 En aquest món mesquí quan tenim pa no tenim vi
(Dywediad) “Yn y byd truenus hwn pan fydd gennyn ni fara does gennyn ni ddim gwin

6 menjar-se el pa mort byw heb weithio (“bwyta’r bara marw”)

7 pa i circ bara a chwaraeon (o ymadrodd Juvenal panem et circenses[qv] )
La gent vol pa i circ Mae pobl yn ymofyn bara a chwaraeon

8 pa amb tomàquet bara a thomato (bwyd poblogaidd yng Nghatalonia)
pa amb oli  (bwyd poblogaidd Ynysoedd Catalonia) bara ac olew olifau a thomatos a halen


AMB
pa amb tomàquet
bara a thomato (bwyd poblogaidd yng Nghatalonia)
pa amb oli  (bwyd poblogaidd Ynysoedd Catalonia) bara ac olew olifau a thomatos a halen
 

CIRC
pa i circ
bara a chwaraeon (o ymadrodd Juvenal panem et circenses[qv] )

DIA
mes lleig que un dia sense pa
hyll fel pechod (“hyllach na diwrnod heb fara”)

DIR
dir pa al pa i vi al vi
(“galw bara yn fara a gwin yn win”)
galw rhaw yn rhaw, galw pâl yn bâl, galw rhywbeth wrth ei enw; siarad yn blwmp ac yn blaen

LLEIG
mes lleig que un dia sense pa
hyll fel pechod (“hyllach na diwrnod heb fara”)

MENJAR
menjar-se el pa mort
byw heb weithio (“bwyta’r bara marw”)

MESQUÍ

En aquest món mesquí quan tenim pa no tenim vi
(Dywediad) “Yn y byd truenus hwn pan fydd gennyn ni fara does gennyn ni ddim gwin

MÓN

En aquest món mesquí quan tenim pa no tenim vi
(Dywediad) “Yn y byd truenus hwn pan fydd gennyn ni fara does gennyn ni ddim gwin

MORT
menjar-se el pa mort
byw heb weithio (“bwyta’r bara marw”)

NOSTRE
el pa nostre
ein bara beunyddiol

OLI
pa amb oli 
(bwyd poblogaidd Ynysoedd Catalonia) bara ac olew olifau a thomatos a halen

SENSE
mes lleig que un dia sense pa
hyll fel pechod (“hyllach na diwrnod heb fara”)

TENIR
En aquest món mesquí quan tenim pa no tenim vi
(Dywediad) “Yn y byd truenus hwn pan fydd gennyn ni fara does gennyn ni ddim gwin

TOMÀQUET
pa amb tomàquet
bara a thomato (bwyd poblogaidd yng Nghatalonia)

VI
dir pa al pa i vi al vi
(“galw bara yn fara a gwin yn win”)
galw rhaw yn rhaw, galw pâl yn bâl, galw rhywbeth wrth ei enw; siarad yn blwmp ac yn blaen
En aquest món mesquí quan tenim pa no tenim vi
(Dywediad) “Yn y byd truenus hwn pan fydd gennyn ni fara does gennyn ni ddim gwin

 

paborde
1
(Eglwys) profost

pàbul
1
bwyd

pac
1
en pac de fel tâl am

paca
1
belen (o gotwm)

Pacà
1
trefgordd (el Rosselló)

pacana
1
pecan, cneuen becan

pacaner
1
coeden becan

paccionar
1
gwneud cytundeb

paciència
1
amynedd
fer-li acabar la paciència peri (i rywun) golli ei amynedd (“gwneud iddo orffen yr amynedd”)
No sóc la primera persona a qui fas acabar la paciència. I això que jo en tenc un sac.
Dwyt ti ddim yr un cyntaf i ti beri iddo golli ei amynedd. A hynny er gwaethaf y ffaith fod gen i dunelli ohono  (“llond sach ohono”)

pacient
1
amyneddgar
2
(eg) claf

pacientment
1
yn amyneddgar

pacífic
1
heddychlon, heddychol

pacifícament
1
yn heddychlon, yn heddychol

pacificació
1
dofi

pacificador
1
tangnefeddol
2
(enw) pacificador, pacificadora tangnefeddwr, tangnefeddwraig

pacificar
1
dofi
2
tawelu

pacifisme
1
heddychiaeth

pacifista
1
heddychwr

Paco
1
(Castileb) ffurf fachigol ar yr enw Castileg Fransisco
2 El Paco enw difrïol am yr unben Castilaidd o Galisia, Francisco Franco
Bahamonde (1892-1975).
Els carrers de Barcelona varen ser castellanitzats en 48 hores després de l'entrada de les tropes del Paco
Cafodd heolydd Barcelona eu Castilegeiddio (Newidiwyd yr enwau o’r Gatalaneg i’r Gastileg) o fewn deugain ac wyth o oriau ar ôl dyfodiad milwyr Franco


Pacs
1
trefgordd (l’Alt Penedès)

pactar
1
gwneud cytundeb

pacte
1
cytundeb

padrastre
1
llystad

padrí
1
tad bedydd
2
gwas priodas
3
(Ynysoedd Catalonia) tad-cu, taid
4
noddwr
5
tenir padrins adnabod pobl, bod gennych gyfeillion dylanwadol

padrina
1
mam fedydd

padrinatge
1
cyflwr o fod yn dad bedydd
2
nawdd

padrinejar
1
bod yn dad bedydd i
2
hyrwyddo

padró
1
cofrestr drigolion pentref / tref / dinas
empadronar-se ymgofrestru ar gofrestr drigolion

paella
1
padell ffrio, ffrimpan
2
tenir la paella pel mànec bod wrth yr awenau, bod mewn gofal (“bod gennych y ffrimpan wrth ei choes”)
3
paiela

paellada
1
bwyd wedi ei goginio mewn paiela

paf!
1
clec!

paga
1
taliad, pae
2 la paga de Nadal als quiosquers taliad Nadolig i’r gwerthwyr papurau newydd (ychwanegiad at bris arferol newyddiadur adeg Nadolig yn anrheg i werthwyr papurau newydd – er enghraifft, ar 23 Rhagfyr 2003, bu rhaid talu 1.40 iwro yn lle 1 iwro)
El diari d’avui val 1,40 euros per la tradicional paga de Nadal als quiosquers
1.40 iwro yw pris y newyddiadur heddiw oherwydd y tâl traddodiadol ar gyfer y gwerthwyr papurau newydd

paga i senyal
1
ernes

pagà
1
paganaidd

pagable
1
taladwy

pagador
1
talwr
2 pagadora talwraig
3 mal pagador un sydd ddim yn talu yr hyn mae rhaid iddo ei dalu (“drwg-dalwr”)
De mal pagadors Castella n'està ple Mae Castîl yn llawn o pobol sydd ddim yn talu yr hyn mae rhaid iddynt ei dalu

pagament
1
taliad
un pàrquing de pagament parc ceir talu

paganisme
1
paganiaeth

paganització
1
paganeiddiad

paganitzar
1
paganeiddio

pagar
1
pagar (algú) talu (rhywun)
Músic pagat fa mal so (“cerddor wedi ei dalu a wna sain ddrwg”) (h.y. gall gwaith a ddelir ymlaen llaw fod o ansawdd gwael - mae’r arian gan y gweithiwr yn barod ac nid oes cymaint o gymhelliad iddo  wneud y gwaith yn dda)
2
pagar (alguna cosa) talu (am rhywbeth)
3
clirio (dyled)
4
pagar-lo amb la mateixa moneda talu’r pwyth (“ei dalu â’r un darn o arian”)
5
Me la pagaràs! Fe gei dalu am hyn !
6
Pagant, sant Pere canta Mae arian yn agor pob drws ("o’i dalu, caniff Sant Pedr")
7
estar pagat d’ell mateix bod yn lartsh
8
pagar-li la beguda talu diod i rywun
9
gent pagada amenwyr, cynffonwyr (“pobl wedi ei thalu”)
10
pagar la festa cael y bai am bopeth, gorfod hel esgusion am ymddygiad eraill (“talu am y parti”)
11
pagar per endavant talu ymlaen llaw
12
pagar al comptat talu ar law, talu ag arian parod

13 pagar la pena (fer alguna cosa) bod yn werth (gwneud rhywbeth)

(l’Atzúvia, Marina Blanca) El poble és blanc amb singulars formes als ràfecs de les teulades. Paga la pena visitar el casc urbà de Forna.
Pentre gwyngalchog yw hwn, ac y mae i fargodion y toeon ffurfiau arbennig. Mae’n werth ymweld â’r canol hanesyddol (“canol dinesig”) Forna.

pagaré
1
dylednod

pagar el bitllet
1
talu am y tocyn

pagar el lloguer
1
talu’r rhent

pagar els plats trencats
1
talu am y niwed

pagès
1 gwladwr
2 tyddynwr, ffermwr
Pagès i ramader, tots van al cel; advocat i comerciant, a l'infern a cremar
(Dywediad) “Ffermwr a phorthmon, y ddau yn mynd i’r nef; cyfreithiwr a masnachwr, i uffern i losgi”

Pagès massa caçador, conills al rebost i fam al menjador.
(Dywediad) “Gwladwr / ffermwr rhy hoff o hela, cwningod yn y pantri a newyn yn yr ystafell fwyta”

Pagès matiner, omple son graner.
(Dywediad) “Gwladwr / ffermwr sy’n codi’n fore, llawn ei ysgubor”

pagerol
1 gwladwr
2 josgyn

pagesa
1
gwladwraig

pagesia
1
gwladwyr, gwerin
2
ffermdy

pàgina
1
tudalen
2
tudalen = épisod

paginació
1
tudalennu, tudaleniad

paginar
1
tudalennu

pagoda
1
pagoda

païble
1
treuladwy

païda
1
treuliad

pailebot
1
sgŵner fach
Els Reis arribaran per mar al Portal de la Pau amb el pailebot Santa Eulàlia. Recepció de l’Alcalde (Avui 2004-01-05)
Y Doethion yn glanio wrth Portal de la Pau (“yn cyrraedd ar y môr i Borth Heddwch / i Ddrws Heddwch”) yn y sgener Santa Eulàlia. Y Maer yn eu derbyn.

païment
1
treuliad

paio
1
bachan

(el) Paiol
1
trefgordd (el Baix Llobregat)

Paiporta
1
trefgordd (l’Horta)

pair
1
treulio
2
dioddef
3
no poder pair algú ffaelu â dioddef rhywun

4 derbyn
Divuit mesos després de la seva derrota electoral, encara no ha paït de quedar fora del govern
Ddeunaw mis ar ôl colli’r etholiad dyw e ddim wedi derbyn eto ei fod wedi colli grym (“dyw e ddim wedi treulio aros tu faes i’r llywodraeth”)

pairal
1
cyndadol, teuluol
2
casa pairal plas; hen gartref eich teulu

pairar-se
1
gwneud heb

país
1
gwlad
en alguns països mewn rhai gwledydd
2
cefn ffan (papur neu frethyn)
2
viure sobre el país byw ar gorn gwlad sydd o dan ormes

paisà
1
cyd-wladol
2
sifiliad, dinesydd preifat
3
(plismon, milwr)
vestir de paisà bod mewn dillad cyffredin, bod mewn dillad plaen, bod yn eich dillad eich hun 

paisà
1
cyd-wladwr

paisatge
1
tirwedd
2
tirlun

paisatge de fons
1
cefndir

paisatgista
1
tirluniwr

(els) Països Catalans
1
Gwledydd Catalonia

País Valencià
1
Gwlad Falensia

pakistanès
1
Pacistanaidd
2
(enw) Pacistaniad

(el) País Basc
1
Gwlad y Basg, Euskalherria

(el) País de Gal·les
1
Cymru

(els) Paisos Baixos
1
Yr Iseldiroedd

pal
1
polyn
2
hwylbren
3
ffon

rebre pals per dalt i per baix
cael eich ffustio o bob gyfeiriad; cael eich beirniadu gan hwn a’r llall 
(“cael ffyn oddi uchod ac oddi isod”)

a cops de pal ag ergydion ffon, â ffonodau
Espanya és un conglomerat de nacions independents que a cop de pal els han fotut al mateix sac
Bagad o genhedloedd annibynnol yw Sbaen y maen nhw wedi eu gorfodi i’r un sach trwy eu curo â ffon (“maen nhw wedi rhoi yn yr un sach ag ergydion ffon”)

4
ser un pal bod yn fwrn, bod yn feichus
5
(llythyren) strôc uchaf
6
pal de telègraf polyn téligraff
7
pal de bandera polyn fflag
8
suplici del pal polioniad
9
portar algú al pal lynsio rhywbeth
10
posar pals a les rodes (a alguna cosa)
rhoi strocen o dan pob olwyn (rhywbeth) (“rhoi ffyn yn yr olwynion”)

pala
1
pâl
2
bat
3
asgell (olwyn)
roda de pales olwyn rodli, olwyn badl
4
(cap) cysgod llygaid
5
(esgid) tafod

palada
1
rhawaid, rhofaid / rhofiad, palaid, llond rhaw, llond pâl

fer diners a palades gwneud arian fel gro, gwneud arian fel slecs, gwneud arian fel y mwg, gwneud arian fel ar eu hochrau

paladar
1
taflod (y geg)
2
chwaeth
tenir bon paladar
bod gennych chwaeth da

paladejar
1
blasu

paladí
1
marchog dewr

pala excavadora
1
turiwr, peiriant turo, jac-codi-baw

Palafolls
1
trefgordd (el Maresme)

Palafrugell
1
trefgordd (el Baix Empordà)

Palamós
1
trefgordd (el Baix Empordà)

palanca
1
pompren
2
sbringfwrdd, sbringford
3
trosol
4
pompren (rhwng cei a llong)

palangana
1
basn ymolchi

palangre
1
cefnen = ffunen bysgota / lein bysgota / llinell bysgota, rhaff rhwng fflotiau â llinellau â bachau yn hogian wrthi

Palanques
1
trefgordd (el Ports de Morella)

palastre
1
haearn dalennog

palatal
1
taflodol

palatalització
1
taflodoli, taflodoliad

palatalitzar
1
taflodoli,

palatalitzat
1
taflodol

palatí
1
taflodol
2
palatinaidd
3
(enw gwrywaidd) pálatin = swyddog mewn palas

palatinat
1
palatinaeth = rheng pálatin

palau
1
palas
2 el Palau de la Generalitat
Ty’r Gyffredinfa (pencadlys llywodraeth Catalonia)

Palau d’Anglesola
1
trefgordd (el Pla d’Urgell) (yn el Segrià tan 1988)

Palau de Cerdenya
1
trefgordd (l’Alta Cerdanya)

palau de congressos
1
neuadd cynhadleddau

palau de justícia
1
(Y Gyfraith) llys = adeilad

Palau del Vidre
1
trefgordd (el Rosselló)

palau espiscopal
1
palas esgob

Palau de Santa Eulàlia
1
trefgordd (l’Alt Empordà)

Palau-sator
1
trefgordd (el Baix Empordà)

Palau-saverdera
1
trefgordd (l’Alt Empordà)

Palau-solità
1
trefgordd (el Vallès Occidental)

paleògraf
1
paleograffydd

paleografia
1
paleograffeg

paleogràfic
1
paleograffig

paleolític
1
paleolithig

paleontòleg
1
paleontolegwr

paleontologia
1
paleontoleg

paleozoic
1
paleosöig

palès
1
amlwg

palesament
1
yn glir

palesar
1
datgelu

palestí
1
palestí, palestina Palestiniad

Palestina
1
Palestina

palet
1
carreg fach

paleta
1
gosodwr brics

paleta
1
trywel
2
tafod esgid

paletada
1
llond trywel

paleter
1
ànec paleter llwybig

palier
1
hanner echel

palimpsest
1
pálimpsest

palíndrom
1
gwrthred

palissada
1
palisâd, palis

palla
1
gwellt

separar el gra de la palla nithio’r grawn oddi wrth yr us (“gwahanu’r gwenith oddi wrth y gwellt”)
No sap destriar el gra de la palla Nid yw’n gwybod sut mae nithio’r grawn oddi wrth yr us; Nid yw’n gallu gwahanu’r da oddi wrth y drwg
un barret de palla het wellt
de color de palla
o liw gwellt
2
cavapalles fforch wair, picwarch
3
foc de palla tân siafins (rhywbeth sy’n para ond am ychydig)
4 dormir a la palla (“cysgu yn y gwellt”) bod mewn perygl heb sylweddoli
5 no pesar un palla cyn ysgafned â phluen (“ni + pwyso gwelltyn”)
6
crych (= diffyg mewn gem, mewn carreg werthfawr)
7
gwelltyn
bri de palla gwelltyn
8
gwelltyn, gwelltyn yfed
palla
de beure gwelltyn, gwelltyn yfed
9 wanc
fer-se una palla wancio, halio
fotre’s una palla wancio, halio

pal·ladi
1
paladiwm , delw Palas

pallanga
1
llipryn main (dyn tenau tal, gwraig denau tal)

pallar
1
gorchuddio â gwellt

pallard
1
paladr, palat, bachan mawr
com bigotet de pallard “fel mwstásh bach ar ryw fachan mawr”

pallarès
1
o ardal Pallars
2
pallarès, pallaresa un o Pallars, rhanbarth yng Ngogledd Catalonia

(els) Pallarosos
1
trefgordd (el Tarragonès)

(el) Pallars Jussà
1
comarca (Gogledd Catalonia)

(el) Pallars Sobirà
1
comarca (Gogledd Catalonia)

pallasada
1
ffwlbri, gwiriondeb
2
gweithred yn null clown
3
sylw smala, jôc

pallasso
1
clown
fer el pallasso = chwarae’r ffŵl

pallat
1
matres gwellt

Pallejà
1
trefgordd (el Baix Llobregat)

paller
1
tas wair
2
croglofft, taflod
3
ysgubor
4
cercar una agulla en un paller chwilio am nodwydd mewn tas wair
5 el pal del paller y prif gynheiliad, y prif gynhalydd, y prif gynhaliwr; asgwrn cefn (“ffon y das wair”)
Van arribar a ser el pal de paller per a les seves famílies en aquells moments difícils
Aethant yn brif gynheiliaid eu teuluoedd yn y cyfnod anodd hwnnw

Encara hi hagi certa esquerra que s’autoproclami "pal de paller de l’esquerra"
O hyd y mae rhai asgell chwith sydd yn eu galw ei hun yn “gydwybod y chwith” (“Y mae o hyd rhyw chwith sydd yn ei datgan ei hun yn “asgwrn cefn y chwith”)

pallera
1
fforch wair
2
croglofft, taflod
3
tas wair ar ffurf sgwâr

pallet
1
mat

palleta
1
(tynnu coelbren) gwelltyn byr
2
gwelltyn yfed
3
sbilsen
4
És mes facil veure una palleta en l'ull d'un altre, que una biga en el propi
Mae’n haws gweld y brycheuyn sydd yn llygad rhywun arall na’r trawst sydd yn dy lygad dy hun

pal·li
1
(Eglwys) cwnsallt, paliwm

pàl·lia
1
gorchudd (ar gyfer cwpan cymun)

pal·liar
1
lliniaru
2
(nam, diffyg) cuddio
3
(effaith), lleiháu

pal·liatiu
1
lliniarol
2
cuddiol

pal·liatiu
1
lliniarydd, lleddfwr
2 sense pal·liatius digymysg, pendant, diamwys

pàl·lid
1
gwelw
2
nychlyd
3
(ffigurol) pell
4
un record pàl·lid = brith gof
5 (color) golau, o liw golau
Només quan s’obre la jaqueta de cuir veig que duu un jersei pàl·lid (El Punt 2004-03-09)
Dim ond wrth i’w siaced ledr ymagor y gwelaf fod jersi o liw golau amdano

pal·lidesa
1
gwelwder

pallissa
1
ysgubor
2
crasfa

pallola
1
y frech goch

pallús
1
eisin
2
twpsyn, lembo

palma
1
palmwydden
2
deilen balm
3
cledr y llaw
3
[cangen palmwydd fel arwydd buddugoliaeth]
emportar-se la palma / endur-se la palma bod yn fuddugol, mynd â hi, cario’r dydd, ennill y dydd, ennill y maes
Quina és la pitjor cançó del CD? Crec que el CD en general és molt mediocre. Però la penúltima cançó s'endú la palma.
Pun yw’r gân waetha ar y crynoddisg? Rwy’n meddwl fod y crynoddisg drwyddo draw yn un di-fflàch iawn. Ond y gân olaf ond un sy’n mynd â hi.

Palma
1
trefgordd (Mallorca)

Palma d’Ebre
1
trefgordd (la Ribera d’Ebre)

Palma de Gandia
1
trefgordd (la Safor)

palmar
1
(Castileb) marw, estyn y fer, cicio’r bwced, trigo, mynd i’ch aped
Ens unim o palmem Unwn neu fyddwn farw
2 palmar-la   (Castileb) marw, ayyb
Per qüestions d'edat, estan començant a palmar-la els blavers d'aquesta generació, que han educat els fills en castellà
Am resymau oedran, mae'r 'blavers' (Falensiaid gwrth-Gatalonia a phro-Gastilia) y genhedlaeth hon, sydd wedi codi'r plant yn Gastileg, yn dechrau marw
 

palmari
1
amlwg, eglur
2
hunan-amlwg

palmell
1
cledr y llaw

palmer
1
medrydd weier

palmera
1
palmwydden, (Palmera datilera) = palmwydden datus

Palmera
1
trefgordd (la Safor)

Palmerola
1
trefgordd (el Ripollès)

palmeta
1
cansen (at gosbi)

palmípede
1
aderyn troedweog

palmó
1
cangen wen palmwydden a ddefnyddir yn nathliadau’r Pasg

Palol de Revardit
1
trefgordd (el Gironès)

Palom
1
cyfenw [Cataloneg hynafol = colomen]

paloma
1
[math o fadarchen]

(el) Palomar
1
trefgordd (la Vall d’Albaida)

palp
1
teimlo
2
teimlad
no tenir palp en la mà bod heb deimlad yn y llaw
3
cyffwrdd
4
palpws - organ synhwyro trychfilyn
Palps amb aspecte de rem Palpysau â golwg rhwyf arnynt

palpable
1
(celwydd) mawr
2
amlwg

palpar
1
teimlo, bodio
2
(person), chwilio corff
3
canfod
4
gwerthfawrogi

palpeig
1
cyffwrdd = chwilio trwy gyffwrdd

palpejar
1
cyffwrdd = chwilio trwy gyffwrdd

palpentes
1
[stêcen ddiasgwrn
a les palpentes dan ymbalfalu’r ffordd
entrar a les palpentes mynd i mewn dan ymbalfalu’r ffordd

palpís
1
[stêcen ddiasgwrn]
2
pad y bys

paltipació
1
dychlamiad

palpitant
1
dychlamol = sydd yn symud yn rhuddmig fel curiad y galon
2 dybryd = enbyd, dwys, difrifol
La desgràcia palpitant la tenim davant nostre i cal atendre-la de seguida
Mae’r aflwydd enbyd o’n blaenau ni ac mae rhaid delio ag e ar fyrder
2
(ffigurol) qüestió palpitant = pwnc llosg
tema palpitant = pwnc llosg
3 (golau) fflachiol
la llum palpitant dels semàfors golau fflachiol y goleuadau traffig

palpitar
1
curo
amb el cor palpitant â’i galon yn curo’n drwm
Es va anar a dormir amb el cor palpitant i no va aconseguir agafar el son
Aeth i’r gwely â’i galon yn curo’n drwm ag ni lwyddod i gysgu


Pals
1
trefgordd (el Baix Empordà)

paltrigar
1
damsang

paludisme
1
malaria

palplantat
1
sefyll fel petáech wedi hoelio i’r fan
2 sefyll fel cerflun, bod wedi ei blannu yn y ddaear, bod wedi ei sodro i’r ddaear
De tant en tant apareixen siluetes negres palplantades a la cuneta. Marquen les llocs on hi hagut els accidents mortals (Avui 2004-01-18)
Weithiau mae silwetau du wedi eu sodro i’r ddaear yn ymyl y ffordd. Maent yn marcio’r mannau lle bu damweinau angheuol.

pam
1
palf

2
(mesur) dyrnfedd
Per Cap d'Any el dia s'allarga un pam
(“Ddydd Calan mae’r dydd yn ymestyn ddyrnfedd”)
Yn cyfateb i’r dywediad Cymraeg: Bydd y dydd wedi mystyn cam ceiliog erbyn y Calan.
Hefyd yn Gymraeg: Awr fawr Calan, dwy Ŵyl Eilian, tair Ŵyl Fair

3
pam a pam = o dipyn i beth

4
no ve d’un pam
..a/ does dim rhaid bod mor fanwl-gywir (“nid yw’n mynd o un dyrnfedd”, nid cwestiwn o un ddyrnfedd mohoni)
..b/ nid yw mor bwysig â hynny
En el fons, els polítics saben que ningú no perdrà el temps a prendre nota de les promeses electorals i que, per tant, no ve d'un pam
Yn y bôn mae’r gwleidyddion yn gwybod fod neb yn colli amser yn sylwi ar yr addewidion etholiadol ac felly nid yw mor bwysig â hynny

5
quedar amb un pam de nas = bod wedi ei siomi’n fawr, bod wedi eich gadael ar y clwt, bod wedi’ch gadael yn y baw, bod wedi’ch gadael yn ddiymadferth

Quants cops habia quedat la Generalitat catalana amb un pam de nas en mil i un assumptes?
Sawl gwaith yr oedd y Gyffredinfa (Llywodraeth Catalonia) wedi ei gadael yn ddiymadferth?

deixar (algú) amb un pam de nas
= siomi (rhywun) yn fawr, gadael (rhywun) ar y clwt, gadael (rhywun) yn y baw, gadael (rhywun) yn ddiymadferth

6
restar amb un pam de boca aros yn gegrwth
7
a pams o dipyn i beth
8
fer pam i pipa wfftio; [[rhoi bys bawd un llaw ar y trwyn, a bys bawd
y llall ar ben bys bach y llaw gyntaf, a symud y bysedd eraill]]
9
treure un pam de llengua  bod wedi blino yn deg, bod a’ch tafod allan ("rhoi i maes ddyrnfedd o dafod")
10
estar un pam d’orelles bod yn glustiau i gyd

pam!
1
bang! clec!

pàmfi
1
araf
2
dwl

pamflet
1
pamffled

pamfletari
1
ar ffurf pamffled

pàmpol
1
deilen gwinwydd
2
cysgodlen lamp

Pan
1
Pan

pana
1
melfaréd, cordyrói, cordi
2
(car), toriad i lawr, anghaffael, aflwydd

panacea
1
holliachâd, moddion at bob clwyf
2
ateb i bob problem

panada
1
pastai cig
2
pastai pysgod

panadera
1
crasfa
rebre una panadera = cael crasfa

panadís
1
ewinbil

Panamà
1
Pánama

panameny
1
yn perthyn i Bánama

panameny
1
un o Bánama

pancarta
1
placard
La pancarta deia això: Catalonia is not Spain
Dywedodd y placard fel hyn: Nid Sbaen mo Gatalonia

pàncreas
1
cefndedyn

panda
1
panda

pandemònium
1
pandemoniwm, anhrefn lwyr, mwstwr

pandereta
1
támbwrin

panegíric
1
molawd, cân o foliant

panegirista
1
canmolwr, clodforwr

panellet
1
[cacen fach gron o fárzipan]

panem et circenses
1
bara a chwaraeon
L'escriptor llatí Juvenal va descriure la política del emperadors romans amb la famosa frase "panem et circenses", pa i circ.
Disgrifiodd y llenor Lladin Juvenal bolisi’r ymerodron Rhufainig a’r ymadrodd enwog “panem et circenses”, bara a chwareuon
Els castellans segueixen l'estratègia dels cèsars de la roma imperial "panem et circenses" (pa i circ)
Mae’r Castiliaid yn dilyn ystrategaeth Cesariaid Rhufain Ymerodol sef panem et circenses" (bara a chwaraeon)

paner
1
basged
2
(Anatomia) pen-ôl; va tocar-li el paner cyffyrddodd â’i phen-ôl
3
són figues d’un altre paner = ond stori arall yw honno (“ffigys o fasged arall ydynt”)
4
qui fa un cove fa un paner = a ddwg wy a ddwg fwy

panera
1
basged fara
2
basged ddillad
3
basged

panerada
1
llond basged, basgedaid

panerer
1
gwneuthrurwr basgedi

panerola
1
chwilen

panet
1
rholsyn

pangolí
1
pángolin

pànic
1
panig , dychryn,braw

panical
1
(Eryngium campesre) boglynnog y maes, ysgallen ganpen
panical marí celyn y môr

panícula
1
panicl

panificació
1
pobi = y broses o wneud bara

panificar
1
(gwenith), gweund yn fara

panís
1
miled
2
maiz

panissar
1
cae miled

panissola
1
(planhigyn o’r genws Setaria) = xereix

panistre
1
basged

panna
1
darn o rywbeth
panna de suro darn hirsgwâr o rhusgl corc

pannell
1
panel

pannicle
1
panícwlws

pannola
1
tywysen maiz

panòplia
1
cyflawn arfogaeth

panorama
1
panorama = golygfa
2
panorama = rhagolwg
3
sefyllfa

panotxa
1
tywysen maiz
cap de panotxa cochyn, cochen – un â gwallt coch

pansa
1
rhesinen
2
briw ar y gwefus

pansar
1
gwywo

pansiment
1
gwywo, gwywiad

pansir-se
1
gwywo

pansit
1
wedi gwywo
2
swrth

pantà
1
cronfa ddŵr
2
llyn (= un wedi ei greu, mewn chwarel, etc)

pantalla
1
sgrîn
2
cysgodlen
3
gard tân
4
dyn blaen

pantalons
1
trowsus
portar els pantalons = gwisgo’r trowsus (gwraig sydd â’r llaw uchaf)

pantalons curts
1
trowsus bach

pantanós
1
corsog

panteisme
1
holl-dduwiaeth,pantheistiaeth

panteista
1
pantheist

panteístic
1
pantheistaidd

panteix
1
dyheú
2
anadlu trwm

panteixar
1
dyhéu
2
anadlu â’ch wynt yn eich dwrn

panteó
1
pantheon
2
bedd brenhinol
3
bedd teuluol

pantera
1
panther

pantògraf
1
pántograff

pantomim
1
mud-actor

pantomima
1
sioe fud

pantomímic
1
pantomimig

panxa
1
bol (Gal·les del Nord, gal·lès referencial),
bola (Gal·les del Sud)
2
amynedd
3
chwydd
4
(potel) bol = rhan lydan
5
estar de panxa enlaire 1 gorwedd ar eich cefn; 2 lolian
6
la panxa no escolta músiques dim diben pregethu wrth ddyn llwglyd
7
omplir la panxa bwyta yn awchus
8
panxa per avall â’i wyneb i wared
9
posar panxa mynd yn dew
10
posar-se de panxa al sol osgói gwneud rhyw jobyn
11
ser una panxa contenta un ysgafala
12
tenir la panxa aferrada a l’esquena bod ar fin llwgu
13
tenir molta panxa bod yn amyneddgar iawn

panxabuit
1
bolwag

panxacontent
1
fer el panxacontent bod yn hapus, anwybyddu problemau

panxada
1
llond eich bola

panxa del bou
1
a la panxa del bou, no hi neva ni hi plou
“ym mol yr ych dyw hi ddim yn bwrw eira na bwrw glaw”

panxarrut
1
bolfawr

panxell
1
croth y goes

panxó
1
llond eich bola
2
fer-se un panxó de ... stwffio ei hun
m’he fet un panxó de figues rwy wedi bwyta gormod o ffìgs,rw-i wedi fy stwffio â ffìgs
3
fer-se un panxó de riure chwerthin yn galonnog

panxut
1
boliog, ag iddo fola mawr
un home panxut dyn boliog
2 boliog, chwyddedig

pany
1
clo
2
bollten
3
rhan o wal noeth (pany de paret )
4
(crys), cynffon, cwt
5
clwtyn
6
patshyn
un pany de cel = patshyn o wybren ddigwmwl
7
anys i panys llawer o flynyddoedd, blynyddau mawr

paó
1
paun

paona
1
paunes

paorós
1
ofnadwy
Aquests animals estàn en paorós perill d’extinció
Mae’r anifeiliad hyn mewn perygl mawr o ddarfod amdanynt

pap
1
(aderyn) crombil, glasog
2
bola (person)
3
buidar-se el pap arllwys eich cwd, bwrw’ch bol
4
omplir-se el pap hel yn eich crombil, llenwi’r bola
5
ficar al pap (alguna cosa) llimpan (bwyd) llowcio (bwyd)
6
tenir el pap buit bod heb fwyta
7
quedar-se (alguna cosa) al pap cadw rhywbeth heb ei ddatguddio
8
treure-la del pap dod â pheth allan, dweud peth
9
tenir-ne el pap ple bod wedi cael llond bola ar

papa
1
tad, tada
2
Pab
els dos Papes Borja y ddau Bab Borja

papà
1
tada

papada
1
(person) tagell

papadiners
1
peiriant gamblo
2
twyllwr

papagai
1
parot

papaia
1
papaia

papallona
1
glôwyn byw, iâr fach yr haf, pili-pala
2
estil papallona  (nofio) strôc adeiniog, strôc pilipala, strôc glöyn byw, nofio pilipala 

papallonejar
1
symud fel pilipala
2
newid fel y gwynt, dim dal ar, bod yn chwit-chwat

papamosques
1
gwybedog

papar
1
llyncu yn farus

paparra
1
trogen
2
cynffonnwr

papaterra
1
abwyden

paper
1
papur

2
rôl, rhan = (mewn drama)

3
dogfen, darn o bapur
papers dogfenni, twydded, caniatâd
papers de residència trwydded breswyl
arreglar-li els papers de residència (a algú) trefnu trwydded breswyl (rhywun)
Jo li vaig arreglar els papers de residència Trefnais ei thrwydded breswyl iddo

tenir els papers en ordre
bod papurau wedi eu dilysu gan rywun
tenir els papers en regla bod papurau wedi eu dilysu gan rywun

La xilena no tenia carnet [de conduir], ni cap paper en regla
Nid oedd gan y wraig o Tshili drwydded yruu, na dim papur wedi ei ddilysu [trwydded waith, trwydded breswyl, ayyb]

immigrants sense papers mewnfudwyr heb bapurau

4
paper mullat ‘papur gwlyb’
Això és paper mullat (awdurdodaeth) Dyw hynny yn werth dim
sobre paper mullat
ddiwerth, gwerth dim  (“ar papur gwlyb”)
lleis sobre paper mullat deddfau heb yr un werth, deddfau nad ydynt yn cael eu gweithredu

5
sobre el paper
mewn théori

6
paper de carbó papur carbon
paper d’embalar
papur lapio
paper de filtre
papur ffilter
paper de fumar
papur sigarennau
paper de plata
papur aliwminiwm
paper de vidre
papur tywod
paper de wàter
papur tŷ bach
paper gomat
papur gym
paper higiènic
papur tŷ bach
paper quadriculat
papur sgwarog
paper vegetal
papur gwrthsaim

paperada
1
cymysgfa o bapurau

paperam
1
cymysgfa o bapurau

paperer
1
papur (cymhwysair)
2
molí paperer melin bapur

paperera
1
bìn papur gwastraff

papereria
1
siop nwyddau papur
2
nwyddau papur
3
ffatri bapur

paperet
1
darn bach o bapur
2 paperets conffeti
paperets grocs de confetti en forma de cor darnau bach melyn o gonffeti ar lun calon
Quan van arribar l’alcalde i la seva dona, el públic els va començar a llançar els paperets a mesura que travessien pel passadís fins a la tarima.
Pan gyrhaeddod y  maer a’i wraig, dyma’r cyhoedd yn dechrau bwrw’r conffeti atynt wrth iddynt fynd ar hyd yr eil hyd at y platfform

papereta
1
darn bach o bapur
2
papereta de vot papur pleidleisio (arno y mae rhestr o’r ymgeiswyr; mae’r pleidiau yn anfon y papur pleidlesio at bawb ar y rhestr ethol. Gellir mynd ag ef i’r orsaf bleidleisio, neu gellir codi papur arall yn yr orsaf bleidleisio)

i després tots corrents a votar amb la papereta del PSC
a wedyn dyma bawb nerth ei draed i bleidleisio â phapur pleidleisio’r Blaid Sosialaidd
 

paperina
1
côn papur
2
cwdyn papur, bag papur
3
meddw-dod

paperot
1
darn diwerth o bapur
2
dogfen ddiwerth

papió
1
babŵn

papillota
1
papur crychu

papir
1
papurfrwyn
2
dogfen hynafol ar y math hwn o bapur

papissot
1
bloesgni, deilen ar eich tafod

papassoteig
1
deilen ar eich tafod

papissotejar
1
deilen ar eich tafod

papista
1
Pabydd (dirmygus)
2
ser més papista que el papa bod yn fwy Herod-wyllt na Herod, ("bod yn fwy Pabyddol na’r Pab ei hun")

papu
1
bwci-bo, bwgan

papú
1
Papwaidd

papú
1
Papwiad

paquebot
1
llong bost
2
fferi

paquet
1
paced, parsel
2
paquet de cigarretes pacedaid o sigarennau
3
fer el paquet
cael eich cyfran deg (o rywbeth)

paquiderm
1
anifail croendew; éliffant
Aquests paquiderms hi viuen sense que ningú els destorbi ja que són l'encarnació
viva del déu Ganesh

Mae’r eleffantod hyn yn byw yno heb fod neb yn eu haflonyddu gan mai ymgnawdoliaeth y duw Ganesh ŷnt

2 croen tew
Aquest animal és d'un color grisós i té la pell molt dura (paquiderm)
Mae i’r anifael hwn groen llwydaidd ac mae ei groen yn dew iawn (“pachuderm”)

par
1
cymar, person sydd yn gydradd ac arall
2
(economeg) par = yr un gwerth
a la par ar bar, ar lawn werth
estar per dessota la par isláw’r pâr, ar ddisgownt
estar per damunt de la par uwchláw’r pâr, ar bremiwm

paràbola
1
parábola
2
dameg

parabrisa
1
ffenestr flaen (car)

paracaiguda
1
párashWt

paracaigudisme
1
parashwtio

paracaigudista
1
parashwtydd
2
awyrfilwr

paraclet
1
yr Eiriolwr, yr Ysbryd Glân, y Diddanydd

parada
1
arhosiad
2
arhosfan
parada d’autobús arhosfan bysiau
parada discrecional arhosfan ar gais
parada de taxi arhosfan tacsis
3
stondin (e.e. mewn marchnad)
4
parêd, gorymdaith
5
ataliad / arbediad gôl (pêl-droed)
6
merch neu wraig ddi-waith
7
gweithred o osod magl
8
pario, ataliad (cleddyfaeth)
9
rhodres
fer parada d’alguna cosa tynnu sylw â rhywbeth

paradigma
1
patrwm, model, esiampl
2
cynddelw, archdeip
3
(berf) rhediad
4
(berf) rhediad = rhestr sydd yn dangos rhediad berf

paradís
1
paradwys

parador
1
gwesty (ar gyfer twristiaid)
2
gorsaf = (rheilffordd) gorsaf fach, arhosfan
3
gorffwysfan
4
lleoliad
Fins ara, ningú no ha sabut res sobre el parador del pres fugit
Hyd yn hyn ni wyr neb ble mae’r carcharor ar ffo (“am leoliad y carcharor”)

paradoxa
1
páradocs

paradoxal
1
paradocsaidd

para el carro
1
aros funed! aros damaid bach!

parafang
1
gard olwyn (ar lafar: mydgard)

parafina
1
páraffin

parafrasejar
1
aralleirio

paràfrasi
1
aralleiriad

paràgraf
1
páragraff

Paraguai
1
Paragwái

paraguaià
1
Paragwáiad, Paragwaies

paraguaià
1
Paragwáiaidd

paraigua
1
ymbarél

paràlisi
1
parlys

paralític
1
diffwryth, parlysedig

paralització
1
parlysiad

paralitzar
1
parlysu
2
bod ar stop

parallamps
1
rhoden fellt

paral·lel
1
cyfochrog
una realitat paral·lela dirwedd cyfochrog
Hi ha moltíssima gent que viu a una realitat paral.lela creada per l'aparell mediatic de l'extrema dreta espanyola -Antena 3, COPE, ABC, La Razón, El Mundo, etc.
Mae llawer iawn o bobl sydd yn byw mewn dirwedd cyfochrog wedi ei greu gan gyfundrefn gyfryngol  y dde eithafol Gastilaidd -  Antena 3 (= cwmni teledu), COPE (= cwmni radio yr Eglwys Gátholig), ABC, La Razón, El Mundo (= papurau newydd), ayyb.

paral·lelament
1
ar yr un pryd

paral·lelepípede
1
(Geometreg) paralelepiped

paral·lelisme
1
cyfochredd
2
cyffelybiaeth

paral·lelogram
1
paralelogram

paralogisme
1
camresymiad, geuddadl

parament
1
offer cartref
parament de taula cýtleri a phlatiau
parament de casa dodrefn ty, celfi ty
parament de cuina offer cegin
parament de llit bedclothes
2
addurniad
parament d’altar ardduniadau allor
3
wyneb (wal)

paràmetre
1
paramedr

paramilitar
1
paramilwrol, lledfilwrol

paraninf
1
[neuadd fawr prifysgol]

paranoia
1
paranoia

paranoic
1
paranoiaidd

paranoic (enw gwrywaidd)
1
paranöig plural paranöigion

paranormal (ansoddair)
1
goruwchnaturiol, paranormal
Avui he viscut una experiència paranormal a Barcelona. Per primer cop en molts anys, una caixera de supermercat m'ha atès directament en català, sense saber que jo parlo català (Forum Raó Català 2005-03-09)
Heddiw rwyf wedi cael profiad goruwchnaturiol ym Marselona. Am y tro cyntaf ers llawer blwyddyn mae merch y ddesg dalu yn yr archfarchnad wedi fy ngweini yn Gatalaneg o’r cychwyn, heb wybod fy mod i’n siarad Catalaneg.

parany
1
magl
parar un parany gosod magl
li volien posar un parany yr oeddynt am osod magl iddo
caure
al propi parany cwympo i’ch magl eich hun
3
helfa
4
magl = peth deniadol i dwyllo rhywun
És un parany Twyll yw hi
fer caure algú en un parany denu rhywun i fagl

paranyer
1
maglwr

parapet
1
rhagfur

paraplegia
1
parlys cyfan, paraplegia

paraplègic
1
paraplegig, llwyr-barlysedig

paraplègic
1
paraplegig, plural paraplegigion

parapúblic
1
lledgyhoeddus

parar
1
stopio
2
dioddef
3
anar a parar
dod i ben eich taith, diweddu
4
parar (de fer alguna cosa) peidio â gwneud (rhywbeth)
Vols parar de parlar de menjar?
Paid â sôn am fwyd yn ddiddiwedd (“hoffet ti beidio â siarad am fwyta”)
5
parany: parar-li un parany gosod magl (ar gyfer rhywun)
6
sec: parar en sec sefyll yn stond
7
sense parar (adv) yn ddi-baid, yn ddi-stop
8
(glaw) peidio â bwrw glaw
9
(bwrdd) parar la taula gosod y bwrdd
10
Pararà lladre Ei gorffen hi fel lleidr y bydd ef
11 parar atenció rhoi sylw
parar bé l’orella clustfeinio
Però a Berga, per exemple, si es para bé l'orella, hi ha una fonètica diferent...
Ond yn Berga, er enghraifft, o glustfeinio fe ganfyddir fod ynganiad gwahanol
12 parar la mà estyn y llaw
13   aros
 



paràsit
1
parasitig

paràsit
1
párasit
2
cynffonwr

para-sol
1
cysgodlen
2
párasol

parat
1
di-waith
2
araf
3
wedi ei synnu
quedar parat bod wedi eich synnu yn ddirfawr
deixar (algú) parat synnu (rhywun) yn ddirfawr

parat
1
un di-waith
2
pobl di-waith: els parats

paratge
1
lle, llecyn, mangre

paraula
1
gair
en una paraula mewn gair

parauler
1
siaradus

parauler
1
clebrwr

parauleria
1
malu cachu

paraulota
1
rheg

paravent
1
sgrin

para-xocs
1
(car) bymper
2
(rheilffordd) byffer

parc
1
parc
2
parc zoològic zw, sw
3
parc d’artilleria storfa magnelaeth
4
parc de bombers gorsaf dân
5
parc infantil lle chwarae i blant
6 parc d’atraccions
parc difyrion (â ffigyr-eit, trên bwganod, olwyn fawr, ayyb)
7 stoc
L’Ajuntament ha de tenir un parc d’habitatge propi per posar-lo en el mercat de lloguer
Dylai fod gan Gyngor y Ddinas ei stoc o dai ei hun i’w osod ar rent (“ei rhoi yn y farchnad rent”)
8 el parc de vehicles cerbydau; y cyfanswm o gerbydau ar yr heolydd (mewn rhyw wlad, ayyb)
També hi va haver la renovació del parc de vehicles de la policia local amb 4 nous vehicles marca Ford Focus C-Max Adnewyddiwyd hefyd (“bu hefyd adnewyddiad”) cerbydau’r heddlu lleol â phedwar cerbyd newydd o’r math Ford Focus C-Max


parc
1
cynnil
parc de paraules diwedwst

parcel·la
1
parsel = darn o dir
La parcel·la compta únicament amb 500 m2 Dim ond pum cant o fedrau sgwâr yw’r darn o dir
Va comprar una parcel·la per fer-se una casa Prynodd ddarn o dir i wneud tŷ iddo fe ei hun

parcel·lar
1
rhannu, dyrannu (tir)
Posteriorment, els terrenys de la muntanya es van parcel·lar i el que havia de ser una zona residencial es va convertir en un barri de modestes cases d'autoconstrucció.
Wedyn fe wnaethpwyd rhandiroedd o dir y mynydd ac aeth  yr hyn a oedd i fod yn ardal drigfannol yn rhandref o dai bach a godwyd gan eu perchnogion eu hunain

Parcent
1
trefgordd (la Marina Alta)

parcer
1
ffermwr-denant

parcial
1
rhannol
eclipsi parcial de lluna
diffyg rhannol ar y lleuad
amnestia parcial
amnest rhannol
2
unochrog
jutge parcial barnwr unochrog

parcialitat
1
rhagfarn (o blaid rhywun)

parcialment
1
yn rhannol

parc mòbil
1
cyfanswm o gerbydau

pardal
1
aderyn y to
2 pidyn
3 twpsyn
Malauradament tens tota la raó, els castellans són uns feixistes i nosaltres (els catalans) uns pardals.
Yn anffodus rwyt ti’n holloliawn, ffasgwyr yw’r Castiliaid a twpsod ŷn ninnau (y Catalaniaid)

Pardines

1
trefgordd (el Ripollès)

pare
1
tad

paredar
1
codi waliau
2
walio

parèixer
1
ymdebygu i, golwg (peth) ar

parell
1
tebyg

parell
1
cymar
sense parell heb ei ail
2
pâr
un parell de mitjóns pâr o sanau
un parell de guants pâr o fenyg
3
un parell o tres de cops unwaith neu ddwy
4
eilrif, rhif gwastad
a parells o senars odrifau neu eilrifau
5
fa un parell d’anys ddwy neu dair blynedd yn ôl

parella
1
pâr
un parella de ball pâr dawns
2
en parella
wedi priodi, gyda’u gilydd
la vida en parella byw gyda’a gilydd
3
cariad (eg, eb); sboner, wejen
4
cymar; gŵr; gwraig
5
deuawd
6
(anifeiliad) dau
parella de bous (ychen) iau, pâr

parencer
1
rhwysgfawr

parenceria
1
rhwysgfawredd

parenostre
1
pader
saber una cosa com el parenostre gwybod rhywbeth ar eich cof

parent
1
perthynas
2
parent llunyà
perthynas pell
3
parent pròxim perthynas agos
4
gŵr
5
parents perthnasau

parenta
1
perthynas (merch)
2
gwraig (= cymar)

parentat
1
carennydd

parentela
1
perthnasau

parèntesi
1
ymang, sangiad
2
cromfach
entre parèntesis
rhwng cromfachau
parèntesi quadrat cromfqch sgwàr
3
toriad, egwyl

parentiu
1
perthynas
2
cysylltiad

parer
1
barn, opiniwn
2
al meu parer yn ’y marn í
3
al meu parer personal yn ‘y marn í
4
a parer meu yn ’y marn í
5
ser del mateix parer bod o’r un farn
6
ser del parer contrari meddwl fel arall
7
ser del parer de bod o’r un farn â

Parestortes
1
trefgordd (el Rosselló)

paret
1
wal
rellotge de paret cloc wal
És totalment inútil discutir amb gent com tu, és com parlar a la paret
Mae’n hollol ddiystyr dadlau â phobl fel ti, waeth imi siarad â’r gwynt
2
paret envà gwahanfur, pared, wal ganol
paret mestre wal gydrannol
pisos de parets de paper fflatiau â waliau o drwch papur

Parets del Vallès
1
trefgordd (el Vallès Oriental)

pària
1
dyn ysgymun, parïa

parida
1
esgor
2 syniad abswrd
Per què heu de
posar les vostres parides en AQUEST fòrum?
Pam mae rhaid i chi roi’ch syniadau abswrd yn y fforwm HWN?
dir parides siarad dwli
Comprat un llibre de història abans de tornar a dir parides
Pryna lyfr hanes a phaid â siarad dwli eto (“cyn dychwelyd i siarad dwli”)

parietal
1
parwydol
2 yn perthyn i wal
l’art parietal o rupestre peintiadau ogof (“celfyddyd ar wal neu ar graig”)

parió
1
tebyg
sense parió heb ei debyg; heb ei hail / heb ei ail
2
(ansoddair) cyfartal

parir
1
esgor ar
Visca el pa, visca el vi, visca la mare que ens va parir
Hir oes i fara, hir oes i win, hir oes i’r fam a esgorodd arnom
2
(anifail), llydnu
3
esgor ar (nofel, ayyb)
4
posar algú a parir hala rhywun yn benwan (“rhoi rhywun i esgor / i lydnu”)
5 fer, creu

París
1
Paris
2 Els
nens vénen de Paris “o Baris daw’r plant” (ateb i osgói rhoi esboniad i blant bach sydd yn ymofyn gwybod o ble y mae babanod yn dod)

Tu creus que hi ha algú que es cregui això? Va home va, que ja sabem que els nens no vénen de Paris
Wyt ti’n meddwl bod rhywun yn credu hynny? Cer o’ ma, ddyn, r^yn ni’n gwybod erbyn hyn nad yw plant yn dod o Baris

Si els nens vénen de Paris, els cracks de Sabadell Mae’r peldroedwyr mwya blaenllaw yn dod o Sabadell - os mae plant yn dod o Baris, hynny yw.

Sembla com si els joves encara creguessin que els nens vénen de París. Si no, com s’explica que tants no fan servir cap tipus d’anticonceptiu?
Mae fel petái’r ieuenctid yn dal i gredu bod plant yn dod o Baris. Os nad felly yw hi, sut mae esbonio’r ffaith fod cymaint ddim yn defnyddio’r un math o atal cenhedlu?

parisenc
1
un o Baris

paritat
1
cydraddoldeb

pàrking
1
parc ceir

parla
1
lleferydd
2
iaith

parlada
1
sgwrs

parlador
1
siaradus

parlador
1
siaradwr

parlaire
1
siaradus

parlament
1
senedd
2
araith

parlamentar
1
trin, trafod

parlamentari
1
seneddol
debat parlamentari dadl seneddol

parlamentari
1
aelod seneddol

parlant
1
siaradwr (rhyw iaith)
2
gal·lesoparlant Cymro Cymráeg, siaradwr Cymráeg

parlar
1
siarad (iaith)
A Barcelona és cada vegada més dificil trobar-hi alguna persona que parli el català
Ym Marselona y maen’n mynd yn fwyfwy anodd dod o hyd i rywun sydd yn siarad Catalaneg

berf heb wrthrych
2
siarad
Perdoni, que parla amb mi vostè? (wrth ateb i sarhâd) Esgusodwch fi,
ife ’da fi ych chi’n siarad?
3
parlar en veu baixa siarad mewn llais isel
4 sentir parlar (d’alguna cosa) clywed sôn am (rywbeth)
He sentit molt a parlar de tu Rwy wedi clywed llawer o sôn amdanat ti
5
parlar-s’en (d’algú) bod sôn (am rywun)
Ho va fer simplement perquè se'n parlés d'ell Fe’i gwnaeth dim ond i gael i bobl siarad amdano


Parlavà
1
trefgordd (el Baix Empordà)

parler
1
siaradus

parler
1
siaradusrwydd

parleria
1
hirwyntogrwydd
2
clecs

parloteig
1
clebran

parlotejar
1
clebran

parnàs
1
Parnasws

paròdia
1
párodi

parodiar
1
parodïo

parònim
1
gair cytras

paroxisme
1
ffit, pwl, hwrdd

parpella
1
amrant

parpalleig
1
amrantiad
2
(seren) pefrio

parpellejar
1
amrantu, clipio llygad
2
(seren) pefrio

parquedat
1
cynildeb

parquet
1
llawr parce

parquímetre
1
cloc parcio


pàrquing
1
parc ceir
un pàrquing de pagament parc ceir talu

parra
1
gwinwydden

M’encanta collir de les parres el raïm Rw i’n hoff iawn o gasglu’r grawnwyn o’r gwinwydd

A l’hort hi havia oliveres, parres i figueres Yn yr ardd / yn y berllan yr oedd coed olifau, gwinwydd a choed ffigys

2 (Castileb) estar a la parra bod yn hanner pan, bod rhyw goll ar (rywun)
Estàs a la parra, nen
Mae rhyw goll arnat, fachgen

parrac
1
rhecsyn
el parrac hispànic (difrïol) baner Castilia
cremar el parrac hispànic llosgi baner Castilia

parracaire
1
dyn racs, Jac y Racs

parral
1
delltwaith ar gyfer gwinwydd

parricida
1
tadleiddiad

parricidi
1
tadladdiad

parròquia
1
plwyf

2
eglwys blwyf, eglwys y plwyf
El diumenge 18 de gener vaig anar a missa a la parròquia del Cor de Maria (Avui 2004-01-26)
Ddydd Sul 18 Ionawr euthum i’r offeren yn eglwys y plwyf Calon Mair

3
cynulleidfa

4
cwsmeriaid
la parròquia de la botiga cwsmeriaid y siop

parroquià
1
plwyfolyn
2
cwsmer cyson

parroquial
1
plwyfol

parrup
1
cŵan (= sŵn tyner colomen)

parrupar
1
cŵan (= gwneud sŵn tyner colomen)
On estava la tórtora que sentiem parrupar?
Ble roedd y turtur yr oeddem yn ei glywed yn cŵan?

parsimònia
1
cynildeb
2
llonydd
amb parsimònia yn llonydd

parsimoniós
1
cynnil
2
llonydd

part
1
rhan
2
(brwydr), ochr
3
(perthynas) ochr, plaid
parts interessades  rhai cyfrannog / dan sylw / sydd a wnelont â’r fater
posar-se de part de ochri â
4
(cerddoriaeth), rhan
5
(masnach) ochr, parti
6
part = component, membre
formar part de bod yn rhan o = bod yn aelod o (grwp, ayyb)
7
les parts del cos humà

rhannau’r corff
8
les parts sexuals organau rhywiol
9
cyfran
la major part y mwyafrif
10
donar a cadascú la seva part
rhoi i bob un ei ran
11
(Gramadeg) parts del l’oració rhannau ymadrodd
12
no hi té art ni part (en una cosa)  Nid oes ganddo ran yn rhywbeth
sense tenir-hi art ni part heb fod ganddo ran ynddo (= yn y mater)
13
prendre part en cymryd rhan mewn 
14
per la meva part o’m rhan i
15
de part de ar ran
16
per part de ar ran
17
de part d’arrera o’r tu ôl
18
part damunt de nes i lan
19
part davall de nes i lawr
 
20
part dellà de tu hwnt i, tu draw i
21
de vuit dies a aquesta part  wythnos i heddiw
22
posar un a cosa a part rhoi rhywbeth o’r neilltu
23
donar part hysbysu
24
a part eithriadol
25
part de dalt rhan uchaf
26
de totes parts ymhobman
27 en alguna part rywle  
28
punt i a part llinnell newydd a pháragraff newydd

part
1
esgor
part prematur genedigaeth cyn pryd
2
el part de la muntanya gnweud tŵr melin ac eglwys (o rywbeth)
3
cynnyrch
4
epil

part baixa
1
rhan isaf

partença
1
ymadawiad

partera
1
gwraig ar esgor

parteratge
1
gwelyfod

parterre
1
gwely blodau
Davant del museu hi ha un parterre amb algunes de les plantes amb propietats medicinals
O flaen yr amgueddfa y mae gwely blodau â rhai o’r planhigion â phriodoleddau meddygol
A la plaça de l'Ajuntament al parterre on hi ha l'escultura amb el cavall s'ha renovat la planta que estava molt malmesa per cyclamens blancs i grups de falgueres i ha quedat força espectacular.
Yn Sgwâr Neuadd y Cyngor yn y gwely blodau lle y mae’r cerflun â’r ceffyl, mae’r planhigion oedd wedi eu handwyo’n ofnadwy wedi eu tynnu ac y mae blodau bara’r hwch a chlystyrau o redyn wedi eu rhoi yn y lle, ac y mae golwg ysblennydd arnynt

partició
1
rhannu
2
dosrannu (cludo â rhoi)
3
dosrannu (rhoi rhan o’r cyfan i bobl)

partícip
1
sy’n cymryd rhan

partícip
1
cyfranogwr
Aquest pla de pensions és ideal per aquells partícips que els hi queden 10 o 15 anys encara per la jubilació
Mae’r cynllun pensiynau hwn yn ddelfrydol i’r cyfranogwyr fydd yn ymddeol ymhén deg neu bymtheng mlynedd

participació
1
cyfranogi, cyfranogiad
2
cyfranogaeth
3
rhannu
participació en els beneficis rhannu elw
4
hysbys (dyweddïad, priodas);
participació de casament cerdýn priodas

participant
1
sydd yn cymryd rhan
2
(chwaraeon) sydd yn cystadlu

participant
1
un sydd yn cymryd rhan
2
(chwaraeon) un sydd yn cystadlu, cystadleuwr

participar
1
(bd), cymryd rhan
participar en un debat cymryd rhan mewn dadl
2
bod gennych ran o
participar en els beneficis bod gennych ran o’r elw
3
hysbysebu (priodas, etc)
han participat llur casament maent wedi hysbysebu’r briodas

participi
1
rhangymeriad
2
participi present rhangymeriad presennol
3
participi passat rhangymeriad gorffennol

partícula
1
(gramadeg) geiryn
2
particle
partícula de pols = llychyn, llwchyn

particular
1
preifat
cami
particular llwybr preifat
2
arbennig
3
rhyfedd

particular (substantiu)
1
unigolyn (o’i gyferbynnu â chwmni masnachol neu gorff llywodraethol, ayyb)
El Banc dels Aliments rep aportacions d’empreses i particulars, i les reparteix entre els necessitats
Mae’r Banc Bwyd yn derbyn cyfraniadau oddi wrth gwmnïoedd ac unigolion, ac yn eu rhannu rhwng pobl mewn angen
2
sefyllfa neilltuol

particularitat
1
neilltuoldeb

particularitzar
1
amlygu

particularitzar-se
1
amlygu ei hun

partida
1
ymadawiad
2
punt de partida man cychwyn
3
(masnach) llwyth, cyflenwad
4
nodyn mewn cofrestr
5
tystysgrif
partida de naixement tystysgrif geni
partida de matrimoni tystysgrif priodas
partida de defunció tystysgrif marwolaeth
partida de baptisme tystysgrif bedyddiaeth
6
gêm
una partida d’escacs gêm o wyddbwyll
una partida de bingo gêm o fingo
una partida de pilota gêm o belota
7
(cardiau) dyrnaid, llond llaw
8
carfan
partida de casa carfan o helwyr
una partida de bandolers carfan o wylliaid
9
tro, cast
Quina mala partida m’ha jugat! Dyna dro gwael ma’ e wedi ’i wneud â mi
10 tâl
Es destinarà una partida de 29 milions d'euros per a la creació de llars d'infants
Fe roir tâl o 29 o filiynau o iwros i greu ysgolion meithrin

partidari
1
o blaid
2
(eg) cefnogwr
ser partidari (d’alguna cosa) bod o blaid rhywbeth
Sóc
partidari de l'energia eòlica Rw i o blaid ynni gwynt
Jo sóc partidari de refer les muralles medievals per definir les ciutats
Rw i o blaid ailgodi’r muriau canoloesol i ddangos lle mae terfynau dinasoedd (“i ddiffino’r dinasoedd”)

partidisme
1
pleidgarwch
2
unochredd

partidista
1
unochrog

partidista
1
pleidiwr

partidor
1
rhannwr
2
torrwr
partidor de llenya torrwr coed


partió
1
rhaniad
2
ffin

partir
1
rhannu
2
(bd), cychwyn (taith)
3
a partir de oddi ar
4
partir de zero dechrau o’r dechrau, cychwyn o ddim

partit
1
plaid
partit socialista plaid sosialaidd
partit conservador plaid geidwadol
política de partit polísi plaid
cap de partit pennaeth plaid
2
penderfyniad
prendre el partit de callar penderfynu dweud dim
3
mantais
treure partit de manteisio ar
4
gêm
partit de futbol gêm pêl-droed
partit de boxa gornest baffio, gornest focsio
5
ardal = uned weinyddol
6
un bon partit llanc dibriod neu lances ddibriod, un dibriod neu un ddibriod fyddai’n gymar da / gymhares dda
7
cefnogwr
tenir partit bod gennych gefnogaeth

Partit Nacionalista de Gal·les
1
Plaid Cymru (cyfieithiad Cataloneg)

Partit Nacionalista d’Escòcia
1
Scottish National Party (cyfieithiad Cataloneg)

partitiu
1
cyfrannol

partitura
1
(cerddoriaeth) sgôr

parturició
1
esgor

parvitat
1
bychander
2
(maint rhywun) byrder, byrdra
3
swm bach

pàrvul
1
plentyn bach
pàrvuls plant bach, plantos
Felicito a tots els pàrvuls i als pares que els van ajudar i van anar a la representació
Llongyfarchaf i’r plantos i gyd a’r rhieni a’u cynorthwyodd ac a aeth i’r ddrama

parvulari
1
ysgol feithrin

parxís
1
(gêm)

pas
1
cam
2
fer un pas
cymryd cam, rhoi cam, estyn cam
2
fer el primer pas cymryd y cam cyntaf, rhoi’r cam cyntaf, estyn y cam cyntaf
3
fer un gran pas cymryd cam mawr, rhoi cam mawr, estyn cam mawr
4
fer un pas enderrera cymryd cam tuag yn ôl, rhoi cam tuag yn ôl, estyn cam tuag yn ôl
5
fer un pas fals cymryd cam gwag
6
pas a pas o gam i gam, o dipyn i beth
Anem pas a pas sense córrer massa Gad i ni fynd o dipyn i beth, heb fynd yn rhy gyflym
2
cerddediad, osgo
2
(wrth sôn am gyflymder)
anar a bon pas mynd yn sionc
anar a pas de bou llusgo mynd (“ar gyflymdra ych”)
anar a pas de puça llusgo mynd (“ar gyflymdra chwannen”)
anar a pas de tortuga llusgo mynd (“ar gyflymdra crwban môr”)
a pas de curs dan redeg
apressar el pas cyflymu
7
Pas! Pas!
Gwnewch le! Gangwe!
8
cuitar el pas cyflymu
forçar el pas cyflymu
9
fer pas mynd o ffordd rhywun, gadael lle i rywun
10
obrir-se pas ymwthio
11
de pas wrth fynd heibio
12
sortir al pas cwrdd ar y ffordd, aros ar y ffordd
13
olion troed
seguir els passos de... dilyn ôl (rhywun)
tornar sobre els seus passos dychwelyd, mynd yn ôl, aildroedio’r un llwybr
14
mesur, cam
fer passos per cymryd camau i / paratói i(wneud rhywbeth)
Vaig fer passos per informar-me Cymerais gamau i gael gwybodaeth amdani
15
cam (mewn dawns)
pas de dos pasodoble
16
cam (cerddediad milwrol)
pas d’oca cam gwydd
marcar el pas troedio yn eich unfan
a pas doble dyblwch hi!
a pas doble yn ei dyblo hi!
17
croesfan
pas de vianants croesfan cerddwyr
pas a nivell croesfan wastad, croesfan reilffordd
pas subterrani isffordd, tanlwybr
18
bwlch
Entren pels passos del Pirineu Maent yn dod i mewn trwy fylchau’r Mynyddoedd Pirinéw
19
tramwyfa
prohibit el pas dim ffordd trwodd
servitud de pas hawl tramwyo, hawl ffordd
20
(amser) treigl

21
croesi
el pas de la Mar Roja pels israelites yr Israeliaid yn croesi’r Môr Coch (croesi’r Môr Coch gan yr Israeliaid” )
22
ocell de pas aderyn ymfudol / teithiol
23
newid
el pas del dia a la nit nosi
24
digwyddiad
25
platfform a cludir yn ystod wythnos y Pasg sydd yn dangos rhan o Ddiodefaint Iesu Grist
26
goleddfiad propelor
27
trothwy
28
mal pas sefyllfa ddrwg
sortir d’un mal pas dod allan ohoni
treure (algú) d’un mal pas  dod i achub (rhywun), dod i’r adwy, camu i’r adwy
29 donar-li pas (a algú) rhoi ffordd (i rywun), gadael i rywun gymeryd drosodd
La tardor ha donat pas als primers oratges de l’hivern
Mae’r hydref wedi rhoi ffordd i wyntoedd cyntaf y gaeaf

pas
1
no pas dim... o gwbl
no facis pas allò!
Paid â gwneud hynny!

pas gens
1
ddim o gwbl
Això no t’ha de preocupar pas gens! Paid â phoeni dim am hynny!

pasma
1
(Castileb) yr heddlu, y glas
Al menys a Catalunya Nord la pasma no et multa els CATs
O leiaf dyw’r heddlu ddim yn rhoi dirwy iti am y bathodynnau CAT (am roi bathodynnau ar gefn y car â CAT = Catalonia)
Yn Gatalaneg bòfia yw’r gair cywir

pasqua
1
Pasg
pasqua florida Pasg (“Pasg blodeuog”)
primera pasqua Pasg (“Pasg cyntaf”)
segona pasqua Sulgwyn (“ail Basg”)
pasqua granada Sulgwyn (“Pasg mawr”)
més alegre que unes pasques hapus dros ben, mor llawen â’r gog

fer Pasqua abans de Rams beichiogi cyn priodi, mynd yn feichiog cyn priodi (“gwneud Pasg cyn Sul y Blodau”. Sul y Blodau yw’r Sul cyn
Pasg, sydd yn coffáu dyfodiad Iesu Grist i ddinas Jerẃsalem)

les Pasques Y Gwyliau, gwyliau Nadolig, sef y cyfnod o Ddydd Nadolig (25 Rhagfyr) tan y Serenwyl (6 Ionawr)

la pasqua militar gwyl filwrol yng Nghastîl, ar y Serenwyl (6 Ionawr) i ddyrchafu’r lluoedd arfog

Molt bona Pasqua a tothom Pasg hapus iawn i bawb

pasqüetes
1
y Sul nesaf ar ôl Pasg, Sul y Pasg Bychan

pasquí
1
[datganiad gwawdlyd am y llywodraeth
neu am ryw unigolyn, etc, wedi eu ysgrifennu ar bapurau a roir
i fyny mewn lle cyhoeddus]

pasquinada
1
gwatwar gwleidyddol

passa
1
cam
fer una passa en fals cymryd cam gwag
2
haint

passable
1
goddefadwy, derbyniol

passada
1
mynd drosodd
2
rhes o bwythau
3
hwyrgan
4
hwyrganwyr
5
tro gwael
6
a totes passades boed hynny fel y bo
7
cam bras
8
mala passada tro budr, tro gwael
9
una passada de pentwr o
10
Quina passada! Tewch â dweud!

passadís
1
córidor

passador
1
goddefadwy

passallís
1
rhyd
Aquest passallís, que comunica Flaçà amb Sant Jordi Desvalls, va ser construït l’any 1985 després de cinquanta anys de reclamacions dels dos municipis
Fe wnaed y rhyd hon, sydd yn cysylltu Flaçà â Sant Jordi Desvalls, yn 1985 ar ôl i’r ddau bentref fynnu ei chael am hanner can mlynedd

passamà
1
canllaw

passament
1
modd i fyw

passamuntanyes
1
balaclafa

Passanant
1
trefgordd (la Conca de Barberà)

passant
1
clerc cyfreithiwr
2
tiwtor
 
passa-passa
1
cast hud

passaport
1
pasport

passar
1
mynd; mynd heibio
2
pasio
3
digwydd
passar-li alguna cosa (a algú) rhywbeth yn digwydd (i rywun)
Passo molt sovint per l'estació de Renfe de Badalona... No tinc ganes que em passi res d'això!
Rwy’n mynd trwy orsaf Renfe Badalona yn aml - dw i ddim am i rywbeth fel yna ddigwydd imi.
4
passar un mal moment mynd trwy gyfnod gwael
5 treulio
passar la nit al ras cysgu dan y sêr, cysgu yn y stafell werdd, cysgu yn yr awyr iach
cysgu allan, cysgu yn sawdl y clawdd, cysgu ym môn y clawdd, cysgu yng nghlais y clawdd   
Passa una bona nit
Dymunaf nos da i ti (“treulia nos da”)
6 passar a newid i, troi at
No et passis mai al castellà davant d'un castellanoparlant o immigrant, sigui comunitari o  extracomunitari.
Paid byth â throi at y Gastileg o flaen siaradwr Castileg neu fewnfudwr, bydded o’r Undeb Ewropeaidd neu o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
6 (dŵr) llifo heibio
Però tot això és aigua passada Ond bu llawer tro ar fyd oddi ar hynny; Ond hen, hen hanes yw hynny erbyn hyn; Ond hen, hen hanes yw’r cyfan bellach (“mae’n ddŵr sydd wedi llifo heibio”)
 
7
passar-li pel cap (a algú)
dod i feddwl (rhywun), taro ym mhen (rhywun)
És veritat, no se com no se m'ha passat pel cap
Mae’n wir - wn i ddim pam na thrawodd y syniad yn fy mhen

8
passar (d’algú) anwybyddu (rhywun)
passar olímpicament de anwybyddu’n llwyr
Passeu d’aquest pallasso Anwybyddwch y tywpsyn ’ma

9
passar-li (a algú) la mà per la cara dodi (rhywun) yn y cywilydd (“rhoi’r llaw ar draws wyneb [rhywun]”)

passar a buscar
1
mynd i gasglu
 

passarel·la
1
pompren
2
(sioe ffasiwn; theatr) brigdrawst

passar el plat
1
gwneud casgliad

passar la safata
1
gwneud casgliad

passar llista
1
darllen y rhestr
 
passar per l’adreçador
1
gwneud i rywun gydffurfio / ufuddháu

passar per la justícia
1
mynd ger bron y llys

passar revista
1
archwilio

passar-se
1
passa-se el dia treulio’r dydd
Ahir es va passar el dia jugant al bosc Ddoe fe fuodd e’n chwarae yn y coed trwy’r dydd
2
passa-se la vida treulio’ch oes

 


passar-s’ho bé
1
passar-s'ho bé (amb alguna cosa) mwynháu (rhywbeth), cael mwynhâd (o  rywbeth), cael hwyl (ar rywbeth), joio (rhywbeth)
Senzillament el que vol es passar-s'ho bé sense fer mal a ningú
Yn syml, yr hyn y mae ef yn ei ymofyn yw mwynháu heb niweidio neb
Us ho passareu d’allò mes bé Fe gewch chi hwyl a hanner
Els alumnes s'ho passen molt amb aquest tipus de joc
Mae’r myfyrwyr yn cel hwyl a hanner ar y math hwn o gêm

2 passar-s'ho d'allò més bé (amb alguna cosa) cael hwyl aruthrol (ar rywbeth), cael hwyl a hanner (ar rywbeth), cael hen hwyl (ar rywbeth), joio (rhywbeth) maas draw, cael mwynhâd mawr (o rywbeth)

3 passar-s'ho molt i molt bé
cael hwyl aruthrol (ar rywbeth), cael hwyl a hanner (ar rywbeth), cael hen hwyl (ar rywbeth), joio (rhywbeth) maas draw, cael mwynhâd mawr (o rywbeth)
Els paios s’ho passen molt i molt bé, però de feina ben poca en fan
Mae’r bois yn cael hwyl a hanner, ond dim ond ychydig iawn o waith y maent yn ei wneud

passat
1
goraeddfed (ffrwythau)
2
diwethaf
dissabte passat ddydd Sadwrn diwethaf
el diumenge passat (ar lafar) ddydd Sul diwethaf
el referèndum celebrat el diumenge passat y refferendwm a gynhaliwyd ddydd Sul diwethaf
al passat dia 22 (vint-i-dos)
(gorffennol) ar yr ail ar hugain o’r mis hwn
3 palledig, darfodedig
ser una mica passat bod braidd yn hen ffasiwn
El sermó del capellà era una mica passat per als temps que corren
Roedd pregeth yr offeiriad braidd yn hen ffasiwn i’r oes sydd ohoni

passat
1
gorffennol
Té un passat franquista i feixista Bu yn gefnogwr Franco ac yn ffasgydd yn y gorffennol

passatemps
1
hobi
2
pwsl

passatge
1
pasej
2
tocyn

passatger
1
teithiol

passatger
1
teithiwr

passavolant
1
cwsmer afreolaidd
2
rhywun sydd yn mynd heibio

passeig
1
tro, “wâc”
tornar de passeig dod nôl ar ôl mynd am dro
engegar (algú) a passeig peri i rywun hel ei bac, cael ymadael â rhywun (“gollwng (rhywun) i dro”)

2
rhodfa
el Passeig de Gràcia
heol yn Barcelona (“y rhodfa (sydd yn arwain o Farselona i bentref) Gràcia”)

passejada
1
tro

passejador
1
hoff o gerdded

passejar
1
mynd (â chi etc) am dro
2
(berf heb wrthrych) mynd am dro
Vés a passejar que és diumenge i fa solet!
Cer am dro am mai dydd Sul yw hi heddiw ac y mae’r haul yn disgleirio (ar ôl dyddiau heb fawr o heulwen) 

passejar-se
1
cerdded
2 passejar-se’l gwneud ffŵl ohono

passera
1 rhyd
Van morir en una riuada a la passera de Sobrànigues, a Sant Jordi Desvall (Gironès)
Buont farw mewn llif storm ar ryd Sobrànigues, yn Sant Jordi Desvall (sir Gironès)
2
cerrig naid
3
pompren

passerell
1
(Carduelis cannabina) llinos (brown y mynydd, aderyn cywarch, aderyn y llin)

2
dysgwr, newyddian, un dibrofiad, un glas
ser un passerell bod yn ddibrofiad, bod yn brentis ar y gwaith, dal i wisgo clwt baban, bod heb feistrioli’r grefft

Encara és un passerell Mae’n ddibrofiad o hyd

continuar fent de passerells dal i fod yn ddibrofiad, dal i fod yn brentisiaid ar y gwaith, dal i wisgo clwt baban, bod heb feistrioli’r grefft

3
un bywiog, un fywiog

passi
1
gwarant, caniatâd

passi-ho bé
1
hwyl fawr

passió
1
dioddefaint
la Passió Y Dioddefaint

2
drama’r Pasg, drama’r Dioddefaint
la Passió d’Ulldecona Drama’r Pasg pentref Ulldecona

3
awydd mawr
passió de riure awydd chwerthin
passió de son awydd cysgu

4
diddordeb mawr
això és la seva passió mae hynny’n ddiddordeb mawr ganddo
Té passió pel futbol Mae’n dwli ar bêl-droed / Mae’n ffoli ar bêl-droed

5
brwdfrydedd
parlar sense passió siarad heb fawr o frwdfrydedd


passional
1
crim passional crime passionnel, crimes passionnels
2
yn ymwneud â phasiwn

passioner
1
offeiriad a lafargana’r Ddioddefaint

passionera
1
(Passiflora caerulea) llysiau poen, blodyn y Ddioddefaint

passiu
1
goddefol
fumador passiu ysmygwr goddefol

passivitat
1
goddefolrwydd

past
1
porfa
2
porthiant

pasta
1
toes
2
pasta
3
(ar lafar) arian, pres

pastada
1
tylino

pastador
1
lle i dylino toes
2
tylinwr
pastadora tylinwraig

pastanaga
1
moronen

pastar
1
tylino
Doncs aneu a pastar fang! Felly cerwch i grafu (“cerwch i dylino llaid”)

anar-se’n a pastar fang mynd i grafu, mynd i’r diawl (“mynd i dylino llaid”)

Que se´n vagin a pastar fang! 
I’r diawl à nhw!

pastat
1
yr un ffuned, yr un peth
És el seu germà pastat! Mae e’r un ffuned â’i frawd!

pastel
1
(Celfyddyd) pastel

pastell
1
cawl, llanast

pastera
1
noe, padell dylino

pasterada
1
llond toes mewn noe

pastetes
1
past startsh
2
cawl sydd yn rhy dew

pasteurització
1
pasteureiddiad

pasteuritzar
1
pasteureiddio

pastifa
1
bwngler

pastifejar
1
bwnglera

pastilla
1
tabled
a tota pastilla (gwaedd) nerth eich pen

pastís
1
teisen
la guinda que corona el pastís (“y geiriosen sydd yn coroni’r gacen”) yr eisin ar y gacen = rhywbeth da yn ychwanegol at yr hyn sydd yn dda yn barod.

pastisser
1
teisennwr, pasteiwr

pastisseria
1
teisennau
2
siop deisennau

pastitx
1
clytwaith

pastiu
1
porfa

pastor
1
bugail

2
(protestant) gweinidog

3
gos pastor ci defaid

pastoral
1
bugeiliol

2
(Eglwys) eglwysol

3
vida pastoral  bywyd bugail

4
(eb) bugeilgerdd

pastorel·la
1
bugeilgerdd

pastoret
1
els Pastorets drama’r Geni

pastós
1
toeslyd
una substància pastosa deunydd toeslyd
2
(llais) hyfryd
3
tenir la llengua pastosa bod croen ar y tafod
4
vi pastós  gwin cadarn, gwin praff

pastositat
1
toeslydrwydd

pastura
1
pori = gweithred
2
porfa = lle
3
glaswellt
4
servitud de pastura  hawliau pori
5 gwair
6
ebran

pasturar
1
pori
2
(bw), rhoi ar borfa

pasturatge
1
pori = gweithred
2
porfa = lle

patac
1
ergyd

patacada
1
ergyd
2
clatshen, pelten
3
gwrthdrawiad

patacons
1
pres, arian

patada

1
(Castileb) cic
una patasa al cul cic yn y din

donar-li una patada al cul (d’algú) rhoi cic yn y din (i rywun) (“rhoi cic yn nhin [rywun]”)

donar-li la patada al cul (d’algú) cicio (rhywun) allan (o gyfarfod, o far, ayyb) (“rhoi’r cic yn nhin [rywun]”)

Fotré una patada al cul al malparit Rhodda i gic yn nhin y diawl bach 

correr-se el risc de rebre una patada al cul bod mewn perygl o gael cic yn y din

caure-li com una patada al cul rhoi’r argraff i rywun o fod yn un annymunol
Jo no sóc cap fan teu. Amb tot el respecte, però és que em caus com una patada al cul.
Dw i ddim yn un o dy edmygwyr. Gyda phob parch, rwyt ti’n bigyn clust o ddyn (“rwyt ti’n cywmpo i mi / rwyt ti’n gadael argraff arnaf fel cic yn y din”) 

patafi
1
bwnglerwaith

patafier
1
bwngler

patagó
1
Patagonaidd

patagó
1
Patagoniad, Patagones

Patagònia
1
Patagonia

patamoll
1
cors

patapam
1
clec!

pataplaf
1
clec!

pataplum
1
clec!

pataquejar
1
rhoi clatshen i

patata
1
pytaten, ‘taten

patata fregida
1
ysglodyn

patatar
1
cae tatws

patatera
1
planhigyn pytatws

patates rosses
1
tships

patates fregides
1
tships

patatum
1
clec
2 anghaffael, tro trwstan, adwyth, anffawd

patatús
1
(Castiliaeth) anghaffael, tro trwstan, adwyth, anffawd
Amb aquests enfrontaments amb els seus veins catalans potser algun dia aquests jubilats forasters agafaràn un patatús. Que es prenguin una infusió calenta de til·la.
Ohwerydd y cwerylau hwn â’u cymdogion Catalanaidd efallai bydd y pensiynwyr hyn o’r tu allan yn cael rhyw anffawd. Mae’n well iddynt gael paned poeth o de palalwyf (= te sydd yn llonyddu)

patatxap
1
splash!

patel·la
1
pellen ben-glin, padell ben-glin

patena
1
plât cymundeb, paten, afrlladgib

patent
1
amlwg

patent
1
patent
2
pagar la patent methu ar y cynnig cyntaf

patenta
1
patent

patentar
1
codi patent

patentitzar
1
dangos

patentment
1
yn amlwg

pàtera
1
dysgl

patern
1
o ochr y tad
Els meus avis paterns eren de Gràcia O bentre Gràcia oedd fy nhad-cu a’m mam-gu o ochr y tad
2
avi patern tad-cu o ochr y tad

Paterna
1
trefgordd (l’Horta)

paternal
1
tadol
amor paternal cariad tadol

paternalisme
1
tadoldeb, tadofalaeth

paternalment
1
yn dadol

paternitat
1
tadogaeth
2
awduriaeth

paternòster
1
Gweddi’r Arglwydd

patètic
1
pathetig
No hi ha res més patètic que algú que voldria fer mal i no pot
Does dim sydd yn fwy pathetig na rhywun sydd yn ymofyn (“fyddai’n ymofyn”) gwneud drwg ond heb allu ei wneud (“ond ni all”)

patge
1
gwas

pati
1
iard fewnol
2
patio, cwrt, beili
3
iard ysgol
4
l’hora de pati amser chwarae (ysgol)

patí
1
olwyn droed
2
catamarán

patíbul
1
dienyddle, crocbren
2
condemnar al patíbul cyhoeddi dedfryd crogi

patibulari
1
arswydus

patilla
1
locsyn

patiment
1
dioddefaint
El patiment de milers de persones en mans dels falangistes no és broma
Dyw dioddefaint miloedd o bobl yn nwylo Ffalangwyr (= ffasgiaid) ddim yn rhywbeth i wneud yn fach ohono
2
Quin patiment! Dyna hen dro!

pàtina
1
patina = rhwd ar arian bath

patinada
1
sglefrio
2
llithriad
2
llithriad = camgymeriad

patinador
1
sglefriwr

patinar
1
sglefrio
2
llithro
3
llithro (car)

patinatge
1
sglefrio

patinet
1
sgŵter (i blentyn)

patir
1
dioddef, goddef
2
(berf heb wrthrych) dioddef
3
patir sed bod syched arnoch
4
patir fred dioddef o’r oerfel

patir maltractaments
1
cael eich cam-drin

patogènic
1
pathogenaidd

patòleg
1
patholegydd

patoll
1
tyrfa
2
a patolls yn un haid

patolla
1
tyrfa

patollar
1
ymdrybaeddu

patalogia
1
patholeg

patalògic
1
patholegol

patota
1
tsheto

patracol
1
bwndel o bapurau
2
papurwaith (i awdurdodau)

patri
1
brodorol

pàtria
1
mamwlad
2
(eironig) Sbaen

patriarca
1
patriarch

patriarcal
1
patriarchaidd

patrici
1
pendefigaidd

patrimoni
1
etifeddiaeth
2
treftadaeth
el patrimoni artístic y dreftadaeth gelfyddydol
3 cyfoeth
Des de que va accedir a la presidència de la Diputació de Castelló, Carlos Fabra ha augmentat espectacularment el seu patrimoni (Avui 2003-12-29)
Oddiar i Carlos Fabra ddod yn gadeirydd ar Gyngor Talaith Castelló mae ei gyfoeth wedi tyfu’n aruthrol (“mae wedi cynyddu’i gyfoeth yn aruthrol”)

patrimonial
1
treftadol, etifeddol

patriota
1
gwladgarwr, gwladgarwraig

patrioter
1
gorwladgarol, gwlatgar
2
shofinistaidd

patriòtic
1
gwladgarol, gwlatgar

patriotisme
1
gwladgarwch

patró
1
noddwr
2
bòs, pennaeth cwmni
3
nawddsant
4
patrwm
prendre patró (d’algú) cymryd (rhywun) yn batrwm (“cymryd patrwm oddi wrth rhywun”)
Ma padrina es va morir als 90 anys sense haver parlat mai ni un sol mot en llengua estrangera. Jo en prenc patró.
Bu farw fy mam-gu yn ddeg a phedwar ugain oed heb iddi siarad erióed yr un gair yn yr iaith estron (= yn Gastileg). Rwy i’n ei chymryd yn batrwm.

Els que l'han criticat farien molt bé de prendre patró d'ell.
Byddai’n ddoethach i’r sawl sydd wedi ei feirniadu ei gymryd yn batrwm.

patró de fer puntes
1
patrwm gwau

patrocinador
1
noddwr

patrocinar
1
cefnogi, noddi (antur)

patrocini
1
cefnogaeth
2
nawddogaeth
3
nawdd, noddiant

Patrocini
1
enw merch

patronal
1
cyflogwyr, cwmni, rheolaeth cwmni (cymhwysair)
2
nawddsant (cymhwysair)

patronal
1
cymdeithas cyflogwyr
2
cymdeithas perchnogion rhyw fath o fusnes
ACEDAS, la patronal dels supermercats cymdeithas perchnogion yr archfarchnadoedd

patronat
1
noddwyr
2
ymddiriedaeth

patronat del turisme
1
bwrdd croeso
 

patronímic
1
tadenwol
2
nom patronímic
tadenw

patrulla
1
patrôl, cylchwylfa

patrullar
1
mynd ar batrôl, cylchwylio

patuès
1
iaith y werin

patufet
1
plentyn bach

patuleia
1
plant bach
2
ciwed, nashiwn (difrïol)

patum
1
[anifail ffantastig mewn gorymdaith]
2
(person) unigolyn enwog, ond fod ei enwogrwydd yn dibynnu’n fy ar ei boblogrwydd yn hytrach na’i ddoniau
Sóc dels que confia, i molt, en el govern tripartit. I fins i tot m’agrada el designi de Caterina Mieras com a consellera de Cultura, tot i ... el barroer atac mediàtic de qui desitjava un nomenament més diví, d’un patum cultural o d’un amic del cercle d’intel·lectuals orgànics (Punt 2004-01-08)
Yr wyf yn un o’r rhai sydd â ffydd, â llawer o ffydd, yn y llywodraeth deirbleidiol. Ac yr wyf yn hoffi hyd yn oed y syniad o gael Caterina Mieras fel y Gweinidog dros Ddiwylliant, er gwaethaf yr ymosodiadau isel yn y cyfryngau gan y sawl oedd yn dymuno penodiad mwy harddwych, rhywun mawr ei fri ond anaml ei ddoniau o’r cylch o deallusion cynhenid 

patxoca
1
aruthredd (person)

patxulí
1
patsiwli

pau
1
twpsyn
2
heddwch
3
estar en pau bod yn gyfartal / bod yn wastad
4
fer les paus cymodi
5
que en pau descansi heddwch i’w llwch /i’w lwch
6
en paus cyfartal, gwastad

Pau
1
enw bachgen = Pawl

Pau
1
trefgordd (l’Alt Empordà)

paula
1
twpsen

(les) Paüls
1
trefgordd (l’Alta Ribagorça)

Paüls dels Port
1
trefgordd (el Baix Ebre)

pauperisme
1
tlodusedd

paüra
1
braw, ofn, arswyd

pausa
1
saib, seibiant
2
arafwch
3
amb pausa gan bwyll

pausadament
1
yn araf, gan bwyll

pausat
1
araf
2
pwyllog

pauta
1
rheol, safon
2
linell
3
enghraifft
4
erwydd (cerddoriaeth)

pautat
1
(papur) llinellog

pavelló
1
pafiliwn
2
hafdy (mewn gardd)
3
baner, fflag

pavia
1
eirinen lynol

Pavies
1
trefgordd (l’Alt Palància)
Enw Castileg: Pavías

paviment
1
pafin
2
lloriad

pavimentar
1
llorio, palmantu

pavó
1
paun


 






 
Adolygiad diweddaraf - darrera actualització - 2001 05 06 :: 2003-11-02 :: 2003-12-15 :: 2004-01-05 :: 2005-03-22

 


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yuu àa(r) zïting ø peij fròm dhø "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website